Sut i Wneud Cais
Cyrsiau ôl-raddedig
Bydd y Gofrestrfa Hyfforddiant Athrawon i Raddedigion (GTTR) ar agor i geisiadau o ganol mis Medi. Am gyrsiau TAR Cynradd sy’n cychwyn ym mis Medi bydd angen gwneud cais i’r Gofrestrfa erbyn 1 Rhagfyr. Cewch anfon cais ar unrhyw adeg yn y flwyddyn ond rydym ni’n argymell eich bod yn cyflwyno’ch cais yn gynnar, yn enwedig i bynciau cystadleuol megis hanes neu ymarfer corff.
Cyrsiau israddedig
Cewch wneud cais i UCAS ar unrhyw adeg yn y flwyddyn ond rydym ni’n argymell eich bod yn cyflwyno’ch cais yn gynnar; erbyn canol Ionawr.
Y Brifysgol Agored
Dysgu Eto / Teach Again - Trevor Scott, ffôn: 02920 262770 neu 02920 471019 ebost: J.T.Scott@open.ac.uk
Paratoi i Ddysgu – ebostio Clare Schroder c.a.schroder@open.ac.uk
TAR Hyblyg – Cysylltwch yn uniongyrchol â’r Brifysgol Agored yng Nghymru.
Rhaglen Athrawon i Raddedigion
yn berthnasol i
A hoffech air o gyngor ynghylch sut i wneud cais?
Gall llawer o wybodaeth ar gael ar wefan yr Adran Addysg.
Canolfan Addysg Athrawon Gogledd a Chanolbarth Cymru: Laura Pritchard-Jones l.pritchard-jones@bangor.ac.uk
Canolfan Addysg Athrawon De-orllewin Cymru: Kim Wills kim.wills@smu.ac.uk
Canolfan Addysg Athrawon De-ddwyrain Cymru: 02920416766 csepartnerships@cardiffmet.ac.uk




