Ôl-raddedig
Ar gyfer myfyrwyr 2012 yn amodal ar y cais a chymhwyster
- Cliciwch yma os ydych fel arfer yn byw yng Nghymru
- Cliciwch yma os ydych fel arfer yn byw yn Lloegr
- Cliciwch yma os ydych fel arfer yn byw yn yr Alban
- Cliciwch yma os ydych fel arfer yn byw yng Ngogledd Iwerddon
- Cliciwch yma os ydych fel arfer yn byw yn yr UE
Grantiau Hyfforddi
Yn flynyddol, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r cymelliannau sydd ar gael ar gyfer cyrsiau hyfforddi cychwynnol athrawon ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Mae’r Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi cyhoeddi pa gymelliannau fydd ar gael, pa bynciau fydd yn cael eu cynnwys a lefel y cymelliannau a fydd yn berthnasol i fyfyrwyr sy’n astudio ar gyfer TAR ar gyrsiau hyfforddi cychwynnol athrawon yng Nghymru yn ystod y flwyddyn academaidd 2012/13. Cyhoeddwyd datganiad i’r wasg a gellir ei ddarllen yma:-
http://wales.gov.uk/newsroom/educationandskills/2011/111222incentives/?skip=1&lang=cy
Gall myfyrwyr cymwys sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ac yn cychwyn ar gyrsiau hyfforddi cychwynnol athrawon ôl-radd amser llawn yn y flwyddyn academaidd 2012/13 hefyd gael grant ffioedd dysgu newydd hyd at £5,535.
| Y radd anrhydedd y mae’r myfyriwr yn meddu arni | Cyrsiau uwchradd ôl-radd mewn Mathemateg, Ffiseg, Cemeg, Ieithoedd Modern a Chymraeg | Cyrsiau uwchradd ôl-radd mewn TGCh, Dylunio a Thechnoleg, Saesneg, Bioleg, Hanes, Addysg Grefyddol, Celf, Addysg Gorfforol, Cerdd, Drama a Daearyddiaeth Cyrsiau cynradd ôl-radd |
| 1af (a 2.1 mewn ffiseg) | £15,000 | £3,000 |
| 2.1 (heblaw am ffiseg) | £10,000 | £0 |
| 2.2 | £6,000 | £0 |
Cynllun Cymhelliant Cyfrwng Cymraeg (Uwchradd yn unig).
Mae’n bosibl y bydd hyfforddeion sy'n cychwyn cyrsiau HCA ac yn hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg yn gymwys ar gyfer y Cynllun Cymhelliant Cyfrwng Cymraeg. Cynigir y cymhelliant i hyfforddeion sydd angen cymorth ychwanegol i wella eu hyder yn eu gallu i addysgu’n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg.
Cyllid yn seiliedig gyflogaeth
Mae athrawon dan hyfforddiant ar y Rhaglen Athrawon Graddedig (RhAG) yng Nghymru yn derbyn cyflog gan eu hysgol. Bydd hyn yn o leiaf y phwynt isaf ar gy raddfa gyflog i athrawon heb gymhwyso, ond mae'n bosibl y bydd eich ysgol yn dewis talu mwy i chi. Gellir dod o hyd i'r holl wybodaeth ynghylch y Rhaglen Athrawon Graddedig yng Nghymru dan adran 'Llwybrau i addysgu yn seiliedig a gyflogaeth' y wefan hon.
Cymorth Ariannol Ychwanegol
Gall ffynonellau eraill:
- Y Lwfans Myfyrwyr Anabl
- Cymorth Gofal Plant
- Grant Oedolion - Dibynnol
- Lwfans Dysgu i rieni
- Cronfeydd Argyfwng wrth Gefn
Cwmnïau Cyllid Myfyrwyr
I gael gwybodaeth bellach, argymhellir eich bod yn cysylltu â'ch Cwmni Cyllid Myfyrwyr a fydd yn gallu rhoi gwybodaeth a chyngor manwil i chi am y broses o gwneud cais.
Cymru - www.studentfinancewales.co.uk
Lloegr - www.studentsupportdirect.co.uk
Gogledd Iwerddon - www.studentfinanceni.co.uk
Yr Alban - www.student-support-saas.gov.uk
Yr UE - www.direct.gov.uk




