Athrawon a Hyfforddwyd Dramor

Athrawon a Hyfforddwyd Dramor

Cyfleoedd o dan y Rhaglen Athrawon Graddedig
Mae uchafswm o 9 lle (3 ar gyfer pob canolfan) ar gael ar gyfer y rhaglen RhAG ar gyfer ysgolion uwchradd a gynhelir i Athrawon a Hyfforddwyd Dramor sydd eisoes wedi cymhwyso’n llawn fel athrawon y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir (gweler troednodyn), neu athrawon sydd â chymwysterau addysgu addysg bellach ac sy'n gweithio yn y sector a gynhelir ond neb gael Statws Athro Cymwysedig.
Yn y naill achos a’r llall mae’n rhaid i chi allu dangos eich bod wedi eich cyflogi mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru am o leiaf flwyddyn.
Ar gyfer y ddau gategori uchod, gall Canolfannau HCA ystyried ceisiadau a chymeradwyo rhaglen hyfforddiant foddhaol o dan y rhaglen RhAG heb ei chyllido ar gyfer hyd at 9 ymgeisydd (3 ar gyfer pob canolfan) o fewn y sector a gynhelir.
 
Mae'n rhaid i'r holl geisiadau gael eu cyflwyno i Ganolfan HCA. Bydd yn rhaid i ysgolion uwchradd sy’n ymgeisio am raglenni RhAG ar gyfer hyfforddeion yn y categorïau Hyfforddwyd Dramor/Hyfforddwyd ym maes AB/Galwedigaethol wneud taliadau i’r Ganolfan HCA am eu costau o ran rheoli’r rhaglen ac o ran cynnal yr asesiadau ar gyfer SAC. Nid Llywodraeth Cymru fydd yn pennu lefelau’r taliadau hyn a mater i’w drafod rhwng y Ganolfan HCA a’r ysgol fydd hynny.
Cyngor Cyffredinol i Athrawon a Hyfforddwyd Dramor
Os ydych chi wedi cymhwyso i fod yn athro yn yr Alban, Gogledd Iwerddon, Guernsey, un o wledydd eraill y Gymuned Ewropeaidd, Gwlad yr Iâ, Norwy, Liechtenstein neu’r Swistir, gall eich cymhwyster gael ei asesu fel y gellir eich cydnabod yn athro cymwysedig. 
 
Bydd angen i chi gysylltu â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru os ydych yn addysgu yng Nghymru. I weld rhestr lawn o wledydd sy’n rhan o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd ewch i http://www.ukcosa.org.uk/student/eea.php.
Os ydych chi wedi cymhwyso i fod yn athro y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, gallwch weithio fel athro dros dro am hyd at ddwy flynedd yng Nghymru neu bedair blynedd yn Lloegr. 
Fodd bynnag, yn gyffredinol, bydd angen trwydded waith ar unrhyw un sydd am weithio yng Nghymru nad yw’n ddinesydd mewn gwlad sy’n perthyn i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.
   
Cyn cyflwyno cais i ddilyn y rhaglen RhAG, fodd bynnag, bydd angen i chi sicrhau bod eich cymwysterau’n cyd-fynd â safonau’r DU trwy gysylltu â’r Ganolfan Wybodaeth Genedlaethol ar gyfer Cydnabod Cymwysterau Academaidd (NARIC). Gall NARIC roi arweiniad ysgrifenedig ar addasrwydd eich cymwysterau (codir tâl am y gwasanaeth hwn). Dylid cyflwyno copïau o’r arweiniad a gafwyd gan NARIC i'r Ganolfan HCA gyda’ch cais i ddilyn y RhAG. Gallwch gysylltu â NARIC ar 0871 330 7033 neu ewch i www.naric.org.uk
 
Os ydych chi’n byw dramor ac yn meddwl gwneud cais i’r RhAG dylech gofio mai un o’r gofynion yw bod yn rhaid ichi fod wedi gweithio mewn ysgol yng Nghymru am o leiaf flwyddyn cyn gwneud y cais.
Rhagor o wybodaeth
 
Anghenion Addysgol Arbennig (AAA). Ar hyn o bryd, nid yw’n bosibl i unigolyn ymuno â’r Rhaglen Athrawon Graddedig fel athro anghenion arbennig.Caiff yr hyfforddai addysgu dosbarthiadau anghenion arbennig yn ystod y rhaglen, ond rhaid iddo addysgu dosbarthiadau prif ffrwd hefyd gan gynnwys dosbarthiadau cyfan. 
 
Unedau Cyfeirio Disgyblion. Ni all hyfforddiant mewn uned cyfeirio disgyblion fod yn rhan o raglen gymeradwy.
 
Sefydliadau Addysg Bellach. Ar hyn o bryd, ni all hyfforddiant mewn sefydliad addysg bellach fod yn rhan o raglen gymeradwy.
 
Hyfforddiant rhan-amser. Gall hyfforddai rhan-amser gael hyfforddiant dros gyfnod hirach. Dylai Canolfannau HCA sicrhau:
  1. bod yr hyfforddai rhan-amser yn cael cyfleoedd i gyfrannu cymaint â hyfforddai amser llawn at bob agwedd ar waith yr ysgol; a
     
  2. bod yr hyfforddai rhan-amser yn gallu cael cymaint o brofiad yn yr ystafell ddosbarth a chymaint o hyfforddiant arall ag y byddai hyfforddai amser llawn yn ei gael.

Fodd bynnag, mae’n annhebygol y gallai pobl sy’n gweithio llai na 60% o’r wythnos ysgol, beth bynnag y bo eu profiad blaenorol o addysgu, lwyddo i sicrhau statws SAC yn yr un cyfnod â’r rheini sy’n gweithio’n amser llawn, ac felly gall Canolfannau HCA ystyried ceisiadau oddi wrth ymgeiswyr rhan-amser i hyfforddi dros gyfnod hirach.

YN ÔL I HAFAN RhAG

North and Mid Wales Centre of Teacher Training  South East Wales Centre for Teacher Education South West Wales Centre for Teacher Education Open University