Cwestiynau Aml

C:  A oes angen imi fedru siarad Cymraeg?

A: Mae’r Gymraeg yn bwnc craidd ar y cwricwlwm yng Nghymru, ac yn orfodol i’r holl fyfyrwyr hyd at 16 oed. Fodd bynnag, nid yw’r gallu i siarad Cymraeg yn ofynnol i neb sy’n cychwyn ar gwrs hyfforddiant i athrawon (onid yw’n dilyn cwrs trwy’r Gymraeg). Serch hynny, os byddwch yn dymuno addysgu mewn ysgol Gynradd, bydd yn ofynnol ichi ddysgu Cymraeg sylfaenol, megis diwrnodau’r wythnos, rhifau a lliwiau, er enghraifft, a rhoi gwersi ynddynt.
 
C: A oes angen imi sefyll medrau profion yng Nghymru?
 
A: Students on teacher training courses in Wales are not required to pass the Skills Tests in Literacy, Numeracy and ICT, to obtain Qualified Teacher Status. QTS awarded in Wales is fully recognised in England and beyond. If you train to teach in Wales, then choose to teach in England post qualification, you will not need to sit any skills tests.

 

C:Hoffwn hyfforddi i fod yn athro/ athrawes ysgol gynradd ond nid yw fy ngradd yn un o bynciau’r Cwricwlwm Cenedlaethol. Ydw i’n debygol o gael cyfweliad?
 
A:Mae’n arferol, ond nid yn angenrheidiol, i gynnwys gradd ymgeisydd fod yn gymwys ar gyfer addysg a’r cwricwlwm cynradd. Os nad oes gennych radd yn un o bynciau craidd y cwricwlwm, gall ambell goleg hyfforddi ofyn bod o leiaf 50% o’ch gradd yn gysylltiedig ag un o bynciau craidd y cwricwlwm. Eich cyfrifoldeb chi fydd arddangos hyn ac awgrymir eich bod yn arddangos hyn yn eich datganiad personol ar eich ffurflen GTTR.
 
Bydd y bobl fydd yn eich cyfweld yn ystyried dosbarth eich gradd, eich pynciau Safon Uwch a TGAU ac unrhyw brofiad mewn ysgol gynradd ym Mhrydain cyn penderfynu eich cyfweld. Dylai unrhyw brofiad ysgol fel arfer fod o leiaf bum niwrnod ac o fewn y tair blynedd diwethaf ac wedi’i gyflawni cyn diwrnod y cyfweiad.

C: Beth yw’r gwahaniaeth rhwng Tystysgrif Addysg i Raddedigion a Diploma Proffesiynol Addysg i Raddedigion?

A: Yng Nghymru, Prifysgol Aberystwyth yw’r unig sefydliad sy’n darparu cwrs Diploma Proffesiynol Addysg i Raddedigion, ac nid yw ar gael ond ar gyfer addysgu Uwchradd. Mae’r derminoleg wahanol yn deillio o’r ffaith fod 40 o gredydau’r cwrs ar lefel Meistr. Bydd llawer o sefydliadau yn derbyn y credydau lefel M fel pe baent yn cyfrif tuag at gymhwyster llawn ar lefel Meistr ar ôl ichi gwblhau eich cwrs TAR. Bydd y cwrs TAR a’r cwrs DPAR, fel ei gilydd, yn arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC).

C: Sut dw i’n gwneud cais ar gyfer y grant addysgu? 

A: Os ydych yn addysgu yng Nghymru, dylech anfon eich cais ar gyfer y grant addysgu at Lywodraeth Cynulliad Cymru. Os ydych yn addysgu yn Lloegr, dylech anfon eich cais at yr Awdurdod Lleol sy’n gyfrifol am restr gyflogi yr ysgol.

Mae trefniant cytbwys rhwng Cymru a Lloegr lle y mae pob gwlad yn cynnig ei grant addysgu (a adnabyddir fel (y ‘golden hello’ yn Lloegr) i athrawon p’un ai roeddent wedi cymhwyso yn y naill wlad neu’r llall. Y wlad sy’n gymwys yw’r wlad sy’n ‘sy’n derbyn’. Felly yng Nghymru, gall athro/athrawes cymwysedig a hyfforddodd yn naill ai Cymru neu Loegr dderbyn grant addysgu ar yr amod eu bod yn cwrdd â meini prawf Llywodraeth Cynulliad Cymru ac yn addysgu pwnc a ddynodir yn unig ar gyfer grant addysgu yng Nghymru .
 
Mae gan y grantiau addysgu feini prawf manwl a chyhoeddir arweiniad ynghylch y rhain yn flynyddol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Gellir edrych ar yr argraffiad diweddaraf yma.

 

 

 

 

North and Mid Wales Centre of Teacher Training  South East Wales Centre for Teacher Education South West Wales Centre for Teacher Education Open University