Sut mae’r RhAG yn gweithio
Sut mae’r RhAG yn gweithio yng Nghymru a Sut i wneud cais am RhAG – Swyddogaethau a Chyfrifoldebau
Er mwyn dod o hyd i wybodaeth am swyddi addysgu, fe allech chi: -
- gysylltu ag Awdurdod Lleol yr ardal lle’r ydych chi am addysgu a gofyn am gyfleoedd addysgu sydd ar gael mewn ysgolion yn yr ardal honno;
- edrych yn y Times Education Supplement. Dyma le da i chwilio am swyddi. Mae’n werth i chi hefyd edrych ym mhapurau lleol yr ardaloedd sydd o ddiddordeb i chi.
- Cysylltu â’r ysgolion yn eich ardal. I weld manylion cyswllt ysgolion ewch i wefan GCaD Cymru. Ar ôl i chi ddewis rhestr o ysgolion, cliciwch ar enw’r ysgol ac fe gewch chi fanylion cyswllt yr ysgol. Gallwch weld y manylion hyn mewn taenlen hefyd yn http://wales.gov.uk/topics/statistics/about/reference/schooladdress/?lang=cy
Pan fydd ysgol wedi cytuno i'ch cefnogi, bydd angen iddi gysylltu â'i Chanolfan HCA ranbarthol er mwyn gwneud cais. O flwyddyn academaidd 2012/13 ymlaen bydd y broses ymgeisio'n cael ei rheoli'n llwyr gan y Ganolfan HCA, a fydd yn rhydd i lunio'r broses ymgeisio, pennu dyddiadau cau ar gyfer derbyn ceisiadau a chymeradwyo ceisiadau. Nodir dyletswyddau Canolfannau HCA a darparwyr HCA seiliedig ar gyflogaeth yn y Cynllun Hyfforddi Athrawon ar sail Cyflogaeth 2011 (Rhif 32) a Datganiad Polisi a Blaenoriaethau 2012. Am esboniad manwl o’r safonau y mae’n rhaid i athro eu bodloni erbyn diwedd y rhaglen RhAG er mwyn cael Statws Athro Cymwysedig, gallwch ddarllen Dod yn Athro Cymwysedig: Llawlyfr Canllawiau -2009. Ceir y safonau statudol cyfredol yn Safonau Statws Athro Cymwysedig 2009.
Mae’r bobl sy’n derbyn hyfforddiant o dan y rhaglen RhAG yn cael eu hystyried yn weithwyr cyflogedig yr ysgol ac ni allant gymryd rhan yn y rhaglen fel myfyrwyr neu fel gwirfoddolwyr di-dâl. Mae gan hyfforddeion y RhAG hawliau a dyletswyddau fel gweithwyr cyflogedig ac ni allant gymryd rhan yn y rhaglen oni bai bod ganddyn nhw gontract cyflogaeth gyda’r ysgol. Rhaid iddyn nhw hefyd gael eu talu, fel isafswm, gyflog a bennir ar raddfa cyflog athrawon heb gymhwyso, sy’n dechrau ar oddeutu £15,817. I weld cyfraddau cyflog athrawon dilynwch y ddolen ganlynol http://www.tda.gov.uk/get-into-teaching/salary/teaching-salary-scales.aspx
Gofynnwn i ysgolion gysylltu ag un darparwr HCA yn unig - naill ai’r darparwr lleol neu’r un y mae ganddynt y cysylltiadau cryfaf ag ef. Caiff canolfannau HCA ddiystyru unrhyw geisiadau sydd wedi eu cyflwyno sawl gwaith.
Er mwyn sicrhau dyraniad mwy cyson o ran lleoedd ar y Rhaglen Athrawon Graddedig ledled Cymru, ni chaniateir i unrhyw un ysgol gyflwyno mwy na thri chais i Ganolfan HCA. Yr ysgol fydd yn rheoli'r hyfforddiant o ddydd i ddydd ar y cyd â'r darparwr HCA seiliedig ar gyflogaeth, a fydd yn rheoli'r broses hyfforddi ac yn llunio cynllun hyfforddi fel y gall yr hyfforddai fodloni'r safonau Statws Athro Cymwysedig (SAC). Ar ddiwedd y rhaglen hyfforddi, bydd y Ganolfan HCA yn asesu'r hyfforddai gan benderfynu a ddylai’r unigolyn dan sylw gael ei argymell ar gyfer Statws Athro Cymwysedig gerbron Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru.
Yr ysgol, a'r Ganolfan HCA, nid yr hyfforddai ei hun, fydd yn gyfrifol am gynnal yr holl wiriadau a fydd yn angenrheidiol mewn perthynas â’r hyfforddai cyn iddo gael ei gyflogi. Gellir gwneud yr archwiliadau hynny’n uniongyrchol neu drwy’r Awdurdod Lleol.
O fewn ysgol, bydd gan wahanol aelodau o’r staff a'r darparwr HCA seiliedig ar gyflogaeth rolau gwahanol o ran cefnogi’r hyfforddai a chyflawni'r cynllun hyfforddi.Bydd mentor yr ysgol fel arfer yn cynnig cymorth o ddydd i ddydd. Bydd aelod uwch o’r staff yn goruchwylio’n achlysurol er mwyn sicrhau bod yr hyfforddai a’r rhaglen hyfforddiant ar y trywydd iawn.
O dan y cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth, rhaid i bob ysgol sy'n cyflogi athrawon ar le hyfforddi o dan y RhAG dalu cyflog i'r hyfforddai, yn ogystal â thalu unrhyw gostau eraill a bennir yn y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol. Rhaid bodloni unrhyw ofynion cyflogi eraill hefyd. Os na ellir cydymffurfio â'r gofyniad hwn, ni fydd rhaglen hyfforddi yn cael ei chymeradwyo, neu bydd unrhyw gymeradwyaeth a gafwyd yn cael ei thynnu'n ôl. Mae'r gofyniad hwn yn berthnasol i bob lle hyfforddi, boed y rheini'n cael eu hariannu gan grant ai peidio.
Y Ganolfan HCA
Bydd darparwyr HCA seiliedig ar gyflogaeth, drwy un o'r Canolfannau HCA rhanbarthol, yn prosesu ceisiadau gan ysgolion, yn dewis pa geisiadau i'w cefnogi, yn llunio'r cynllun hyfforddi ac yn ymwneud â hyfforddi ymgeiswyr RhAG llwyddiannus.Byddant yn gweithio gyda mentor yr hyfforddai yn yr ysgol a fydd yn rhoi adborth dyddiol i’r hyfforddai ac yn pennu cyfnodau gofynnol o hyfforddiant prifysgol a hyfforddiant mewn ysgol arall, fel sy'n ofynnol gan y Cynllun.
Bydd y Ganolfan HCA yn rhoi gwybod i ysgolion a hyfforddeion a fu eu cais yn llwyddiannus a bydd yn cael ei gefnogi cyn gynted â phosibl ar ôl i'r dyddiad cau ddod i ben ar gyfer derbyn ceisiadau. Ar ôl i’r ysgolion llwyddiannus gael gwybod y canlyniad bydd y Ganolfan HCA yn llunio’r cynllun hyfforddi manwl gyda’r ysgol.
Gall Canolfannau HCA argymell i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru bod hyfforddai yn cael Statws Athro Cymwysedig yn seiliedig ar eu hasesiadau eu hunain. Bydd gan bob Canolfan HCA ei weithdrefn apelio ei hun ar gyfer ymgeiswyr sy’n methu’r rhaglen.
Bydd y Ganolfan HCA, ar ôl trafod y mater gyda’r ysgol sy’n cyflogi’r unigolyn, yn penderfynu a ddylai’r rhaglen, am ba reswm bynnag, ddod i ben yn gynnar.
O flwyddyn academaidd 2012/13, Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am bennu telerau a gofynion statudol yr hyfforddiant athrawon ar sail cyflogaeth a gaiff ei gyflenwi o dan y Rhaglen Athrawon Graddedig. Ceir y rhain yn y Cynllun Hyfforddi Athrawon ar sail Cyflogaeth 2011. Bob blwyddyn, bydd hefyd yn gyfrifol am gyhoeddi Datganiad Polisi a Blaenoriaethau. Ceir copi o'r Datganiad ar gyfer blwyddyn academaidd 2012/13 yma. (dolen) Caiff y Datganiad gynnwys elfennau a fydd yn sicrhau y darperir cyflog neu grantiau hyfforddiant yn dibynnu ar y math o raglen sydd dan sylw.
Nid oes gan Lywodraeth Cymru bwerau i symud hyfforddeion rhwng ysgolion nac ymyrryd yn y ffordd y mae’r rhaglenni’n cael eu cynnal gan fod hwn yn fater i’r ysgol/cyflogwr/y Ganolfan HCA. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn chwilio am lefydd i hyfforddeion ar raglenni hyfforddiant.
Bydd darparwyr HCA seiliedig ar gyflogaeth yn defnyddio eu trefniadau asesu eu hunain i bwyso a mesur a yw ymgeisydd wedi bodloni Safonau Statws Athro Cymwysedig (SAC).
Os yw’r hyfforddai wedi llwyddo, bydd y Ganolfan HCA yn gwneud argymhelliad i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru y dylai’r hyfforddai ddod yn athro cymwysedig. Bydd y Cyngor yn cadarnhau’r SAC ac yn anfon tystysgrif at yr hyfforddai. Ni cheir unrhyw gymhwyster ychwanegol e.e. TAR, am gwblhau’r rhaglen RhAG.
Yr Awdurdod Lleol
Bydd angen i’r tîm Adnoddau Dynol yn yr Awdurdod Lleol gymryd yr holl gamau gwirio angenrheidiol cyn cyflogi - gwiriadau iechyd a gwiriadau’r Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB). Byddant yn cadarnhau bod hyn i gyd wedi’i wneud trwy lofnodi datganiad a bydd yr ysgol yn ei anfon i’r Ganolfan HCA. Cyfrifoldeb swyddogion yr ysgol a'r Ganolfan HCA, nid yr hyfforddai, yw sicrhau bod y gwiriadau hyn i gyd wedi’u gwneud a bod y datganiad wedi dod i law. Mewn ysgolion sefydledig, ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion arbennig sefydledig, y corff llywodraethu yw’r cyflogwr ac felly rhaid i’r datganiad hwn i’r Ganolfan HCA gael ei lofnodi gan Gadeirydd y Llywodraethwyr.




