Gofynion Eraill
Cyfweliad
Mae’n ofynnol i’r holl ymgeiswyr gymryd rhan mewn cyfweliad, naill ai mewn gr?p neu’n unigol. Fel rheol, cynhelir cyfweliadau unwaith y bydd y darparwr hyfforddiant i athrawon wedi derbyn cais.
Gwiriadau Cofnodion Troseddol
Rhaid i holl ddarparwyr hyfforddiant i athrawon wirio cefndir unrhyw fyfyrwyr sy’n cofrestru ar gwrs sy’n eu rhoi mewn cysylltiad â phlant dan 18 oed neu ag oedolion bregus. Rhaid ichi gwblhau trefn Datgeliad Manwl y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB), sy’n datgelu’r holl euogfarnau ac yn adnabod y rhai sydd ar y Rhestr Troseddwyr Rhyw. Cesglir manylion personol adeg y cyfweliad, ac os derbynnir cynnig am le, rhoddir cychwyn ar y drefn lawn o wirio, yn cynnwys llenwi ffurflen Datgeliad Manwl y CRB a thalu ffi gyflwyno. Mae’r holl gofrestriadau yn amodol ar gwblhau’r gwiriadau er boddhad y Brifysgol. Os daw collfarnau neu faterion eraill i’r amlwg ar ôl ichi gofrestru, ac os credir eu bod yn ddigon difrifol i’ch atal rhag parhau â’ch astudiaethau, daw eich cofrestriad i ben, ac mae’n bosibl y gofynnir ichi adael y Brifysgol.
Addasrwydd i Addysgu
Rhaid ichi lwyddo mewn prawf corfforol a meddyliol ar ‘Addasrwydd i Addysgu’. Mae’r prawf hwn yn sicrhau eich bod yn ateb gofynion Llywodraeth y Cynulliad yng nghyswllt iechyd a gallu corfforol i addysgu. (Ceir manylion am y rhain yn Rheoliadau Safonau Iechyd mewn Addysg (Cymru) 2004 a’r Ddogfen Wybodaeth 036/04). Gofynnir ichi lenwi holiadur datganiad iechyd.
Cofrestru gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol
Os ydych yn dysgu yn y DU, mae gofyn i chi, ar ôl cwblhau eich cwrs, i gofrestru gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol perthnasol. Os ydych yn dysgu yng Nghymru, mae angen i chi gofrestru gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru. Darllen mwy Saesneg yn unig.




